Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Ionawr 2023
Amser:
12.15 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13179
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Sophie Brighouse, Llywodraeth Cymru James Gerard, Llywodraeth Cymru Dr Robert Parry, Llywodraeth Cymru Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Josh Hayman (Ymchwilydd) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (gwariant mewn perthynas â chyfiawnder) a gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn Dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)302 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(6)311 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
4.1 SL(6)301 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol
4.2 SL(6)307 - Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
5.1 SL(6)299 – Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
6 Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
6.1 WS-30C(6)022 – Rheoliadau Iechyd Planhigion a’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog. Nododd y Pwyllgor y sylwadau hefyd.
7 Fframweithiau cyffredin
7.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Fframwaith cyffredin Gwastraff ac Adnoddau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
8 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
8.1 Gohebiaeth gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) (Rhif 2) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog.
9 Papurau i'w nodi
9.1 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.
9.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol
9.3 Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol: Memorandwm Esboniadol ar is-ddeddfwriaeth
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Ysgrifennydd Parhaol.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
11 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (gwariant mewn perthynas â chyfiawnder) a gwaith craffu cyffredinol: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Cwnsler Cyffredinol.
12 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
13 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3 a Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3 a Rhif 4) ar y Bil a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
14 Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.
15 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
16 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
17 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
18 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor mewn Pwyllgor (yn amodol ar y ddadl Ystyriaeth Gychwynnol)
Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o ymdrin â chyfnod ystyriaeth fanwl y pwyllgor o’r Bil a chytunodd ar y drefn o ystyried gwaredu gwelliannau yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, yn amodol ar y ddadl Ystyriaeth Gychwynnol.
15 Adroddiad monitro
Cytunodd y Pwyllgor i rannu ei adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon gyda Phwyllgor Protocol Tŷ'r Arglwyddi ar Iwerddon/Is-bwyllgor Gogledd Iwerddon, a chytunodd ymhellach i ohirio ystyriaeth lawn o'r Adroddiad Monitro diweddaraf tan ei gyfarfod nesaf.
20 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 9 Ionawr 2023, a chytunodd arno.